2014 Rhif 11 (Cy. 1) (C. 1)

CARTREFI SYMUDOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (Cychwyn, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, a wnaed gan Weinidogion Cymru, yn dwyn gweddill Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”) i rym mewn dau gam.  Mae’r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaethau trosiannol ac arbed o dan Ddeddf 2013.

Mae erthygl 2 yn cychwyn darpariaethau penodol yn Neddf 2013 ar 7 Ionawr 2014, at ddibenion gwneud rheoliadau.

Mae erthygl 3(1) yn dwyn gweddill Deddf 2013, h.y. Rhannau 1 i 5 (ac Atodlenni 1 i 3) i rym ar 1 Hydref 2014. Mae erthygl 3(2) yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn perthynas ag Atodlen 4 i Ddeddf 2013. 

Mae erthygl 4 yn gwneud darpariaethau arbed mewn perthynas â gwerthu cartref symudol neu roi cartref symudol yn anrheg o dan Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 sy’n golygu, pan fo meddiannydd cartref symudol, cyn 1 Hydref 2014, wedi cyflwyno cais i berchennog safle am gymeradwyo’r person y mae’r meddiannydd yn bwriadu gwerthu’r cartref symudol iddo, neu roi’r cartref symudol yn anrheg iddo, y caiff y trafodiad fynd rhagddo (os mai hynny yw dymuniad y meddiannydd) o dan y darpariaethau statudol presennol.

Daeth Rhan 6 o Ddeddf 2013 i rym drannoeth y diwrnod y cafodd Deddf 2013 y Cydsyniad Brenhinol.

 

 

2014 Rhif 11 (Cy. 1) (C. 1)

CARTREFI SYMUDOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (Cychwyn, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2014

Gwnaed                                  6 Ionawr 2014

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 58(3)(b), 63(1), 63(9), 64(2) a (3) o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi a dehongli

1.(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (Cychwyn, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2014.

(2) Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol 1983([2]);

ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013; a

mae i “tribiwnlys” (“tribunal”) yr ystyr a roddir yn adran 55(1) o Ddeddf 2013.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 7 Ionawr 2014

2. At ddibenion gwneud rheoliadau, y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol Rhan 4 o Ddeddf 2013, ac Atodlen 2 iddi, ddod i rym yw 7 Ionawr 2014—

(a)     adran 52 (rheolau safle);

(b)     ym Mhennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 (cytundebau cartrefi symudol)—

                           (i)    paragraffau 9 i 13 (gwerthu cartref symudol a rhoi cartref symudol yn anrheg); a

                         (ii)    paragraff 23 (dogfen mewn perthynas â chynyddu’r ffi am y llain).

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Hydref 2014

3.(1) Y diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol Deddf 2013 ddod i rym yw 1 Hydref 2014—

(a)     Rhan 1 o Ddeddf 2013 (cyflwyniad), ac Atodlen 1 iddi;

(b)     Rhan 2 o Ddeddf 2013 (trwyddedu safleoedd cartrefi symudol, etc.);

(c)     Rhan 3 o Ddeddf 2013 (amddiffyn rhag troi allan);

(d)     Rhan 4 o Ddeddf 2013 (cytundebau cartrefi symudol), ac Atodlen 2 iddi, gan gynnwys gweddill adran 52 o Ran 4 a pharagraffau 9 i 13 a pharagraff 23 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2; ac

(e)     Rhan 5 o Ddeddf 2013 (pwerau’r awdurdodau lleol), ac Atodlen 3 iddi.

(2) Mae'r diwygiadau canlyniadol yn Atodlen 4 i Ddeddf 2013 i gael eu trin, felly, fel rhai nad ydynt yn cael effaith hyd 1 Hydref 2014.

Darpariaethau Arbed - gwerthu cartref symudol neu roi cartref symudol yn anrheg

4.(1) Daw’r erthygl hon i rym ar 1 Hydref 2014.

(2) Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo meddiannydd cartref symudol, cyn 1 Hydref 2014, wedi cyflwyno cais i berchennog o dan baragraff 8(1A) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (gwerthiannau) (gan gynnwys o dan y ddarpariaeth honno fel y’i cymhwysir gan baragraff 9(2) o’r Bennod honno (anrhegion)).

(3) Er gwaethaf erthygl 3—

(a)     nid yw paragraffau 9 i 13 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf 2013 yn gymwys mewn perthynas â’r cais; a

(b)     bydd paragraff 8 neu 9 (yn ôl fel y digwydd) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â’r cais.

(4) Mae’r tribiwnlys i barhau i fod ag awdurdodaeth i ystyried unrhyw achosion a gyflwynir o dan baragraff 8(1E) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 ac mae adran 4 o Ddeddf 1983 (awdurdodaeth y tribiwnlys neu’r llys: Cymru a Lloegr) i barhau i gael effaith ar gyfer yr achosion hynny.

(5) Mae’r arbediad ym mharagraff (3) yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r cais—

(a)     os yw’r meddiannydd, ar ôl gwneud cais o’r math a grybwyllir ym mharagraff 8(1E) o  Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 bod y person y bwriedir gwerthu’r cartref symudol iddo neu ei roi iddo yn anrheg yn cael ei gymeradwyo—

                           (i)    yn tynnu’r cais yn ôl; a

                         (ii)    yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perchennog yn tynnu’r cais yn ôl; neu

(b)     mewn unrhyw achos arall, os yw’r meddiannydd yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r perchennog yn tynnu’r cais yn ôl.

(6) Yn achos gwerthiant, os yw gwerthiant y cartref symudol ac aseiniad y cytundeb yn digwydd ar 1 Hydref 2014 neu wedi hynny, yna er gwaethaf erthygl 3—

(a)     nid yw paragraffau 9 i 13 o Ddeddf 2013 yn gymwys mewn perthynas â chomisiwn ar y gwerthiant; a

(b)     mae Gorchymyn Cartrefi Symudol (Comisiynau) 1983([3]) i barhau i gael effaith at ddiben penderfynu swm y comisiwn sy’n ddyladwy i’r perchennog.

 

 

Carl Sargeant

 

Y Gweinidog Tai ac Adfywio, un o Weinidogion Cymru

 

6 Ionawr 2014



([1])           2013 dccc 6.

([2])           1983 p.34.

([3])           O.S. 1983/748.